Ymateb Cyngor Gwynedd i’r Ymgynghoriad ar Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu

1.   Effaith ehangu'r meini prawf cymhwystra am Fathodyn Glas yng Nghymru, ac a oes angen ehangu pellach ar y meini prawf;

 

1.1.              Mae’r meini prawf presennol yn addas ar gyfer y cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru.  Byddai ehangu’r meini prawf yn cael effaith sylweddol ar allu Cynghorau Lleol i weithredu’r cynllun, gan fod heriau ariannol sylweddol yn ein wynebu ar hyn o bryd.

 

1.2.              Byddai ehangu’r meini prawf yn cael effaith uniongyrchol ar ddeilydd Bathodyn Glas, yn enwedig y rhai sy’n cael anhawster mawr i gerdded.  Mae nifer uchel o unigolion yn ddibynnol ar y Bathodyn Glas er mwyn gallu byw bywyd annibynnol, ac mae’r Bathodyn Glas yn eu cynorthwyo i wneud hyn drwy eu galluogi i barcio yn agos i leoliadau maent angen mynediad iddynt.  Pe byddai mwy o bobl yn cael eu hystyried i fod yn gymwys, byddai hyn yn cael effaith ar y nifer o leoliadau sydd ar gael i unigolion barcio.

 

2.   Gweithredu ymarferol a chysondeb o ran cynllun y Bathodyn Glas ledled Cymru, gan gynnwys asesiadau, ffioedd a gorfodi;

 

2.1.              Nid oes cysondeb ar draws Cymru o ran y drefn asesu.  Mae rhai Cynghorau yn dewis dilyn argymhellion Llywodraeth Cymru wrth asesu ceisiadau, gydag eraill yn dilyn trefn wahanol.  Mae Cyngor Gwynedd yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru wrth weithredu’r cynllun Bathodyn Glas, ac yn cyfeirio unigolion sydd angen asesiad pellach ymlaen at gwmni asesu annibynnol.  Mae adborth gan rhai o’n cwsmeriaid yn awgrymu ei bod hi’n llawer haws cael Bathodyn Glas yn rhai rhannau o Gymru, gan fod y drefn asesu yn amrywio.   Mae hyn yn arwain at gwynion ac honiadau nad yw’r cynllun yn cael ei weithredu yn gywir yng Ngwynedd.

 

2.2.              Mae’r Gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y Cwmni Asesu Annibynnol yn anghyson o ran y safon iaith sy’n cael ei ddarparu.  Mae cwsmeriaid sy’n dewis gwneud eu cais trwy gyfrwng y Gymraeg yn derbyn gwasanaeth eilradd, gan nad oes gan y cwmni asesu annibynnol presennol siaradwyr Cymraeg yn gweithio iddynt, ac yn defnyddio cyfieithwyr yn ystod apwyntiadau gydag ymgeiswyr er mwyn cyrraedd safonau iaith.

 

2.3.              Yr ydym hefyd yn teimlo fod y drefn asesu presennol yn dilyn y “ medical model of disability” yn hytrach na’r “social model of disability”.  Mae’r asesiad cyfredol yn edrych ar allu person i gerdded wrth asesu pellter yn hytrach na gofyn sut all y Bathodyn Glas ganiatáu i unigolion, gydag anawsterau symudedd, fyw bywyd mwy annibynnol a chael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau.

 

2.4.              Mae Cyngor Gwynedd yn caniatáu i ddeilydd Fathodyn Glas barcio yn ein meysydd parcio, mewn bae pwrpasol yn ddi-dal.  Nid ydym yn cytuno y dylid ystyried codi ffi ar unigolion sy’n ymgeisio am fathodyn glas, fel sydd yn digwydd yn Lloegr ac yr Alban.

 

2.5.              O ran gweithredu a gorfodi cam ddefnydd o Fathodynnau Glas, ac gan ein bod yn derbyn cwynion am gam ddefnydd o dro i dro,  byddem yn awyddus i ddeall mwy am  y  drefn gyfreithiol/gorfodaeth ynghlwm i hyn ac i dreialu'r math yma o orfodi.

 

2.6.              Rydym yn ymwybodol y bydd angen hyfforddiant arbenigol cyn gallu gorfodi yn y modd sy’n cael ei argymell er mwyn cyrraedd gofynion y ddeddf  i allu tywys achosion i’r Llys, byddai’n anodd iawn i ni allu ymdopi gyda’r baich ychwanegol yma ar  hyn o bryd heb allu denu adnoddau newydd er mwyn ymestyn capasiti’r tîm gorfodaeth.

 

3.   Y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd ar gael i bobl sy'n gwneud cais am Fathodyn Glas yng Nghymru.

 

3.1.              Mae’r wybodaeth gyfredol sydd ar gael i gwsmeriaid yn addas i’r pwrpas pan fydd unigolyn yn gwneud cais am Fathodyn Glas. Fodd bynnag, mae’r wybodaeth sydd ar gael i sefydliadau wedi’i ddyddio, gan nad yw’n cynnwys y newidiadau diweddaraf (2015, 2016) i’r rheoliadau, h.y. yn gymwys oherwydd nam gwybyddol neu yn gymwys oherwydd nam sylweddol dros dro.